Uwch Gynghrair: Watford 1-2 Abertawe

luciano narsingh Image copyright Reuters

Llwyddodd Abertawe i ddianc o Vicarage Road gyda thri phwynt yn dilyn goliau hwyr gan yr Jordan Ayew a Luciano Narsingh.

Fe aeth Abertawe ar ei hôl hi ar ôl dim ond 11 munud, wedi i Andre Carrillo benio'r bêl i'r rhwyd ar ôl i Lukasz Fabianski arbed ergyd Richarlison.

Cyn hynny roedd Ayew wedi taro'r trawst gydag ergyd o bellter, ac wedi hynny bu Watford yn rheoli llawer o'r gêm.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd pellach yn yr ail hanner, cyn i Ayew rwydo gyda phedair munud i fynd ar ôl i Oli McBurnie greu'r cyfle.

Roedd hynny'n ddigon i godi calonnau cefnogwyr yr Elyrch, ond daeth anrheg Nadolig hwyr arall dri munud yn ddiweddarach wrth i'r eilydd Narsingh sgorio i ennill y gêm.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Abertawe yn codi oddi ar waelod yr Uwch Gynghrair, a hynny yng ngêm gyntaf Carlos Carvalhal wrth y llyw.

Pynciau Cysylltiedig