Tŷ crwn yn Sir Benfro wedi ei ddinistrio mewn tân

Ty yn Lammas
Image caption Mae'r tai wedi eu hadeiladu'n bennaf o wellt a mwd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin yn ymchwilio i achos tân mewn tŷ crwn yng nghymuned Lammas yng Nglandŵr ger Crymych yn Sir Benfro.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw brynhawn Llun, ac ar un adeg bu 22 o ddiffoddwyr yn ymladd y tân a barodd dros chwe awr.

Roedd y tŷ yn un o naw ar y safle sydd wedi cael eu codi er mwyn annog bywydau cynaliadwy.

Chafodd neb eu hanafu, ond mae'r tŷ wedi ei ddinistrio'n llwyr.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Y diffoddwr tân Euros Edwards o orsaf Crymych sy'n disgrifio gwead yr adeilad

Pynciau Cysylltiedig