Ymchwiliad i dân mewn ty crwn yn Sir Benfro
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Tân wedi difetha tŷ yng nghymuned cynaladwy Crymych

2 Ionawr 2018 Diweddarwyd 08:14 GMT

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin yn ymchwilio i achos tân mewn tŷ crwn yng nghymuned Lammas yng Nglandŵr ger Crymych yn Sir Benfro.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw brynhawn Llun, ac ar un adeg bu 22 o ddiffoddwyr yn ymladd y tân a barodd dros chwe awr.