Cyfle i bobl Corwen brynu trydan yn lleol

gorsaf ynni Image copyright Cadwyn Clwyd

Mae cynlluniau ar y gweill i ganiatáu i bobl Corwen i brynu trydan yn syth o orsaf ynni dŵr sydd wedi cael ei datblygu gan gwmni cymunedol.

Mae'r orsaf hydro, sydd wedi bod yn rhedeg ers blwyddyn, wedi bod yn cynhyrchu digon o ynni ar gyfer hyd at 30 o dai a busnesau yn y dref.

Cam nesa'r fenter fydd galluogi pobl leol i brynu trydan yn uniongyrchol, am bris rhatach na thrydan gan gwmnïau cenedlaethol.

Dywedodd Silas Jones o Asiantaeth Datblygu Gwledig Cadwyn Clwyd: "Mi fydd pobl leol yn gallu prynu trydan o'r hydro lleol a bosib o'r solar lleol ddiwedd yr haf, felly mae'n ffantastig.

"Fydd y trydan yma'n aros yn yr ardal a fydd pobl leol yn gallu defnyddio trydan lleol a safio pres ar yr un pryd," meddai.

Y llynedd, fe ddaeth 43% o drydan Cymru o ynni adnewyddol, yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymru, sydd 11% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol.