Brexit yn gyfle 'unigryw' i newid cyfeiriad amaeth

Amaeth Image copyright PA

Mae tri amaethwr o Gymru ar bwyllgor llywio grŵp newydd sy'n cael ei lansio yn Rhydychen ddydd Gwener i gynrychioli ffermwyr ar draws y DU sydd eisiau gweld ffermio mwy cynaliadwy.

Mae'r Rhwydwaith Ffermio Er Lles Natur eisiau gweld cymorthdaliadau ffermwyr yn canolbwyntio mwy ar ymdrechion i warchod yr amgylchedd a bywyd gwyllt yn y dyfodol.

Wedi ei sefydlu yn rhannol yn sgil Brexit, mae'r grŵp yn dadlau y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd fod yn gyfle unwaith mewn oes i newid cyfeiriad y diwydiant.

"Am y tro cynta' mewn pedwar degawd mae polisi amaeth y wlad hon yn gallu cael ei greu yn Llundain ac yng Nghaerdydd yn benodol ar gyfer budd amaeth yn y wlad yma," meddai Gethin Owen, un o'r Cymry ar y pwyllgor llywio.

Mae Mr Owen wedi bod yn rhan o gynlluniau fel Tir Gofal yn y gorffennol, ac yn rhoi pwyslais mawr ar warchod ac annog bywyd gwyllt wrth ffermio ym Metws-yn-rhos ger Abergele yn Sir Conwy.

'Cynhyrchiol ac lles natur'

Ers iddo blannu cnydau amrywiol o flwyddyn i flwyddyn, mae'n dweud bod adar fel yr ehedydd wedi cartrefu ar ei dir, ac mae wedi ennill gwobr gan elusen gwarchod adar yr RSPB.

Oherwydd ei fod yn amrywio'r cnydau, mae'n llai dibynnol ar brynu gwrtaith cemegol i'r tir.

"Mae'n bosib dangos bod ffermio cynhyrchiol a ffermio er lles natur yn gallu mynd law yn llaw - 'dyn nhw ddim yn gorfod bod yn ddau beth ar wahân," meddai.

Image caption Mae'r rhwydwaith eisiau gweld mwy o flaenoriaeth ar warchod yr amgylchedd a bywyd gwyllt

Mae gor-amaethu tir a lleihad o 50% mewn rhywogaethau ymhlith y datblygiadau y mae'r grŵp newydd yn honni sy'n arwydd o argyfwng yng nghefn gwlad Prydain.

Mae'r rhwydwaith yn cynnwys ffermwyr mawr a bach, organig a chonfensiynol, ac wedi eu cefnogi gan nifer o fudiadau amgylcheddol fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a'r RSPB.

Y nod yw rhoi llais i ffermwyr sydd eisiau gweld cymorthdaliadau'n canolbwyntio ar ymdrechion i warchod a chryfhau amgylchedd naturiol.

Pryderon Brexit

Mae Mr Owen yn cydnabod bod eraill o fewn y sector yn rhagweld heriau sylweddol yn sgil Brexit.

"Nes mae'r trafodaethau wedi dod i ben mae 'na bryderon ynglŷn â phethau fel cytundebau masnach, yn enwedig yn y sector cig coch," meddai.

"Ond dwi'n meddwl y bydd 'na wastad angen am gynhyrchu bwyd, bydd 'na wastad angen am amaeth, a dwi'n meddwl mewn amser y bydd 'na bwyslais ar ddarparu'r gwasanaethau amgylcheddol y medrwn ni gynnig."

Image copyright Reuters

Y ddau arall o Gymru sydd ar bwyllgor llywio'r rhwydwaith yw Sorcha Lewis o Gwm Elan ym Mhowys a Geraint Davies o'r Bala.

Fe gyhoeddodd Gweinidog Amaeth Prydain, Michael Gove, ddydd Iau y byddai cymorthdaliadau yno'n rhoi mwy o bwyslais ar blannu coedwigoedd a dolydd, ac annog bywyd gwyllt ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Llywodraeth Cymru fyddai'n gyfrifol am bolisi o'r fath yma, ond dyw'r union drefniant ariannol ddim yn glir ar hyn o bryd.

Pynciau Cysylltiedig