Scarlets 47-13 Dreigiau

James Davies Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption James Davies sgoriodd y cais agoriadol i'r tîm cartref

Mae gan y Scarlets fantais o saith pwynt ar frig Adran B y Pro14 wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y Dreigiau.

Roedd y tîm o'r gorllewin wedi sicrhau pwynt bonws o fewn 50 munud diolch i geisiadau gan James Davies, Tom Prydie, Dan Jones ac Aled Davies.

Seliodd ceisiadau pellach gan Aaron Shingler, Will Boyde a Rhys Jones y fuddugoliaeth - yr 17eg yn olynol iddyn nhw ar eu tomen eu hunain yn y gynghrair.

Mae'r Dreigiau, ar y llaw arall, wedi colli 30 gêm oddi cartref o'r bron, gyda Sarel Pretorius yn sgorio'u hunig gais nos Wener.

Maen nhw'n dal yn chweched yn Adran B.

Pynciau Cysylltiedig