Cwpan FA Lloegr: Wolverhampton Wanderers 0-0 Abertawe

Abertawe Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Leroy Fer gerdyn coch dadleuol am drosedd ar Helder Costa

Fe orffennodd hi'n ddi-sgôr rhwng Abertawe a Wolves yng Nghwpan FA Lloegr ym Molineux, wrth i'r ddau dîm orffen y gêm gyda 10 dyn.

Aeth y clwb sydd ar frig y Bencampwriaeth i lawr i 10 ar ddiwedd yr hanner cyntaf wedi i Ruben Vinagre weld cerdyn coch am dacl wael ar Nathan Dyer.

Ond gyda chwarter y gêm yn weddill cafodd Yr Elyrch gerdyn coch dadleuol, gyda Leroy Fer yn cael ei yrru o'r maes am drosedd ar Helder Costa yng nghanol cae.

Bydd angen gêm arall i wahanu'r ddau dîm felly - gêm y byddai'r ddau wedi bod yn awyddus i osgoi.

Image copyright Getty Images
Image caption Gwelodd Ruben Vinagre gerdyn coch am dacl wael ar Nathan Dyer yn yr hanner cyntaf