Cwpan FA Lloegr: Caerdydd 0-0 Mansfield

Caerdydd Image copyright Getty Images

Cafodd Caerdydd eu cadw i gêm gyfartal gyda Mansfield o Adran Dau yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr brynhawn Sadwrn.

Gyda Stadiwm Dinas Caerdydd ond yn chwarter llawn, y tîm cartref gafodd y cyfleoedd gorau yn yr hanner cyntaf.

Cafodd yr ymwelwyr gyfle euraid i sgorio ar ddechrau'r ail hanner, ond llwyddodd y golwr Brian Murphy i arbed ergyd Lee Angol.

Bydd Mansfield felly'n croesawu'r Adar Gleision i Field Mill yn ddiweddarach yn y mis i benderfynu pwy fydd yn yr het ar gyfer y bedwaredd rownd.