Cwpan FA Lloegr: Casnewydd 2-1 Leeds United

Casnewydd Image copyright Reuters
Image caption Peniad Shawn McCoulsky o gic gornel seliodd y fuddugoliaeth i Gasnewydd

Mae Casnewydd trwodd i bedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr am y tro cyntaf ers 1979 ar ôl trechu Leeds United o'r Bencampwriaeth yn Rodney Parade.

Er i'r tîm cartref ddechrau'n dda, Leeds aeth ar y blaen o fewn 10 munud trwy ergyd Gaetano Berardi o du allan i'r cwrt cosbi.

Daeth y tîm o dde Cymru yn gyfartal gyda chwarter awr yn weddill wrth i Connor Shaughnessy roi'r bêl i'w rwyd ei hun o groesiad Frank Nouble.

Aeth Casnewydd ar y blaen yn y munudau olaf gyda pheniad pwerus gan Shawn McCoulsky o gic gornel Robbie Willmott.

Fe welodd Samuel Saiz gerdyn coch i'r ymwelwyr yn syth wedi'r gôl honno, ac yn ddiweddarach fe gadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr fod hynny oherwydd iddo boeri tuag at un o chwaraewyr Casnewydd.

Image copyright Reuters
Image caption Cafodd Samuel Saiz gerdyn coch gan y dyfarnwr Mike Dean yn y munudau olaf