Pris tollau pontydd Hafren yn gostwng am y tro cyntaf

Alun Cairns Hafren
Image caption Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, y byddai lleihau ac yna diddymu'r doll yn hwb i gyflogaeth yng Nghymru

Mae'n costio llai i groesi pontydd Hafren o ddydd Llun ymlaen wedi i'r ddwy bont sy'n cysylltu de Cymru a de orllewin Lloegr gael eu trosglwyddo i ddwylo cyhoeddus.

Dyma'r tro cyntaf erioed i bris y doll ostwng ar ôl i'r cyfrifoldeb gael ei drosglwyddo am hanner nos.

Gan mai Llywodraeth y DU sydd bellach yng ngofal y ddwy bont does dim TAW, ac maen nhw wedi cyhoeddi y bydd y tollau'n cael eu diddymu'n llwyr erbyn diwedd y flwyddyn.

Yn ôl Paul Flynn, AS Casnewydd a chyn-lefarydd Llafur ar Gymru, dylai'r tollau ddod i ben yn syth.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns bod diddymu'r tollau'n flaenoriaeth i leihau costau a "chreu cyfleon newydd i fusnesau a buddsoddwyr".

Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yr arian yn help i ddod â'r broses o dalu tollau i ben, ac i dalu am waith cynnal a chadw.

O 8 Ionawr pris y tollau yw:

Ceir - £5.60 yn lle £6.70;

Bysiau bach a faniau - £11.20 yn lle £13.40;

Lorïau a bysiau mwy - £16.70 yn lle £20.00.

Tan hanner nos ddydd Sul cwmni Severn River Crossing PLC oedd yn gyfrifol am y ddwy bont, a bob mis roedden nhw'n derbyn rhwng £8m a £10m drwy'r tollau.

Mae gwleidyddion Llafur o Gymru wedi dweud bod parhau â'r tollau wedi i'r pontydd fynd i ddwylo cyhoeddus yn "lladrad pen-ffordd".

Dywedodd yr AS Paul Flynn: "Mae Cymru wedi dioddef ers gosod y tollau gyntaf yn 1966.

"Y mis hwn dylid dod â'r tollau i ben, dyw parhau â nhw ddim yn deg."

Ychwanegodd: "Mae'r ddwy bont wedi'u talu amdanynt ac y mae croesi'r Hafren yn rhan o system y ffyrdd ac felly i fod am ddim."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Paul Flynn: Parhad tollau gyfystyr â "threthi Alun Cairns"

Mae tua 25 miliwn o deithiau'n cael eu gwneud ar draws y ddwy bont bob blwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru'n amcangyfrif y bydd economi Cymru yn elwa o tua £100m y flwyddyn pan fydd y tollau wedi'u diddymu.

'Cyfle i fusnesau a buddsoddwyr'

Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, mai ei flaenoriaeth ef oedd diddymu'r tollau.

Dywedodd: "Bydd hyn, nid yn unig yn gwneud teithio yn rhatach i deithwyr ac ymwelwyr, ond hefyd yn creu cyfleon newydd i fusnesau a buddsoddwyr a fydd am ymsefydlu yng Nghymru.

"Bydd y cyfan yn hwb i gyflogaeth yng Nghymru ac yn sefydlu perthynas hirdymor rhwng economïau a chymunedau de Cymru a de orllewin Lloegr gan greu coridor naturiol o Gaerdydd, drwy Gasnewydd i Fryste."

Mae'r ysgrifennydd gwladol wedi trefnu cyfarfod ddiwedd y mis ar gyfer y gymuned fusnes y ddwy ochr i afon Hafren.

Image copyright Severn River Crossing PLC
Image caption Mae'r gwaith o gynnal a chadw y pontydd yn costio £6m y flwyddyn ar gyfartaledd

Dywedodd Elgan Morgan o Siambr Fasnach de Cymru wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru bod diddymu'r tollau yn gyfle mae'n rhaid manteisio arno.

"Mae'n rhaid i ni weithio, nid dim ond gyda de Lloegr ond ledled y byd ac os ydyn ni'n mynd i gael yr agwedd ein bod ni am werthu i ni'n hunain dyw'r economi ddim yn mynd i symud ymlaen," meddai.

Ond dywedodd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd mewn neges ar Twitter ei fod yn benderfyniad "cibddall", ac y byddai modd cynnal benthyciadau gyda'r "incwm o £100m y flwyddyn o'r tollau".

'Gwrando o'r diwedd'

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd Economi a Thrafnidiaeth Cymru, wedi dweud: "Ry'n wedi gofyn sawl gwaith i Lywodraeth y DU gael gwared â thollau pontydd Hafren ac ry'n yn falch fod y llywodraeth o'r diwedd wedi gwrando."

Ychwanegodd: "Ry'n er hynny yn holi pam nad yw'r tollau yn dod i ben yn syth wedi i'r ddwy bont gael eu trosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus?"

Agorodd y Frenhines y bont gyntaf a gostiodd £8m yn 1966 ac agorwyd yr ail bont yn 1996. Cafodd y bont honno ei hariannu gan gonsortiwm preifat ac mae wedi derbyn ad-daliadau sylweddol drwy log a threthi.

Mae cost cynnal a chadw y ddwy bont oddeutu £15m ar gyfartaledd ac mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd parhau â'r tollau am gyfnod yn help i dalu y costau hynny.

Image caption Mae rhai gwleidyddion yn poeni y bydd diddymu'r tollau yn creu tagfeydd traffig

Dywedodd datganiad gan Lywodraeth y DU: "Rhwng y cyfnod o drosglwyddo'r berchnogaeth ar 8 Ionawr a diddymu'r tollau, mae Highways England yn disgwyl casglu digon o arian i dalu am y broses o gael gwared â'r tollau, ac adfer y costau y mae trethdalwyr, yn hanesyddol, wedi bod yn eu talu am gynnal y pontydd.

"Bydd y tollau yn cael eu diddymu cyn diwedd 2018."

'Ansicrwydd staff'

Mae'r 180 aelod o staff Severn River Crossing wedi'u trosglwyddo i weithio i Highways England ond wrth i'r tollau gael eu diddymu cyn diwedd y flwyddyn mae 'na ofnau y bydd 115 o staff yn colli eu swyddi.

Mae Severn River Crossing PLC wedi gwario £228m ar gynnal a chadw y ddwy bont yn y chwarter canrif ddiwethaf, ac mae'r tîm yn hyderus y bydd Highways England yn eu defnyddio i barhau i wneud y gwaith.

Yn y cyfamser mae ofnau y bydd cael gwared â'r tollau yn arwain at godi prisiau tai yn Sir Fynwy.

Wrth gael ei holi gan raglen y Post Cyntaf dywedodd Diana Waite o gwmni Bidmead Cook fod y cwmni eisoes yn gweld diddordeb yn cynyddu yr ochr draw i afon Hafren.

Pynciau Cysylltiedig