Cyhuddo dyn o lofruddio mam yng Nghastell-nedd

Terrie-Ann Jones Image copyright Heddlu'r De

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio mam wedi i'w chorff gael ei ganfod mewn tŷ yng Nghastell-nedd.

Cafodd Terrie-Ann Jones, 33 oed ei chanfod yn farw yn y tŷ ar Heol Talbot oddeutu 19:35 nos Wener.

Mae dyn 56 oed o ardal Llansawel wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.

Bydd yn ymddangos ger bron ynadon Abertawe ddydd Llun.

Dywedodd teulu Ms Jones ei bod wedi colli "mam, merch, chwaer, modryb a ffrind llawn cariad".

"Roedd Terrie-Ann yn llawn bywyd a bydd yn cael ei cholli gan bawb a oedd yn ei charu ac yn ei hadnabod," meddai'r teulu mewn datganiad.

Dywedodd Heddlu'r De bod swyddogion arbenigol yn cynorthwyo'r teulu.

Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i'r tŷ ar Heol Talbot nos Wener