Gwrthdrawiad angheuol ger Llanwrtyd

Police tape

Mae dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad rhwng tractor a char ar ffordd yr A483 ym Mhowys.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau bod car Renault Clio du a thractor wedi gwrthdaro ar y ffordd rhwng Cilmeri a Llanwrtyd oddeutu 16:45 ddydd Sul.

Bu farw gyrrwr y car Renault Clio o'i anafiadau.

Mae ffordd yr A483 wedi bod ar gau ers y gwrthdrawiad ac fe ddywedodd plismyn y gallai fod ar gau am oriau.