Castell-nedd: Dyn yn llys ar gyhuddiad o lofruddio

Terrie-Ann Jones Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Cafwyd hyd i gorff Terrie-Ann Jones mewn cartref yn ardal Cimla o Gastell-nedd

Mae dyn wedi ymddangos mewn llys ar gyhuddiad o lofruddio dynes 33 oed.

Cafwyd hyd i Terrie-Ann Jones mewn tŷ ar Heol Talbot yng Nghastell-nedd nos Wener.

Aeth John Paul Lewis, 56 o Lansawel, o flaen ynadon yn Abertawe fore Llun.

Ni wnaeth siarad ar wahân i gadarnhau ei enw, oed, cyfeiriad a'i fod yn deall y cyhuddiad.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo fynd gerbron Llys y Goron Abertawe ar 10 Ionawr.

Pynciau Cysylltiedig