Coed Y Rhath: 'Aros ac ailasesu'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Coed Y Rhath: Galw am 'aros ac ailasesu' cyn dymchwel

8 Ionawr 2018 Diweddarwyd 11:35 GMT

Yr actores Mali Harries, un o'r ymgyrchwyr yn erbyn torri coed mewn parc yn Y Rhath yng Nghaerdydd, yn galw ar yr awdurdodau i "aros ac ailasesu" cyn bwrw 'mlaen â'u cynlluniau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud fod angen torri'r coed er mwyn lleihau risg llifogydd yn yr ardal, a'u bod wedi cynnal "nifer fawr o ddigwyddiadau yn lleol" ers 2012 am y cynlluniau.