Achos llofruddiaeth babi i gychwyn ddiwedd Ionawr

Hannah Turtle
Image caption Mae Hannah Turtle wedi'i chyhuddo o roi cyffur gwrthiselder i'w phlentyn

Bydd achos llys dynes sydd wedi'i chyhuddo o wenwyno a llofruddio'i mab ifanc yn cychwyn ddiwedd Ionawr.

Mae Hannah Turtle, 22 o Shotton yn Sir y Fflint, eisoes wedi gwadu chwe chyhuddiad.

Bu farw ei mab saith wythnos oed, James Hughes, yn yr ysbyty ar 13 Mehefin 2016.

Mae Ms Turtle wedi ei chyhuddo o roi meddyginiaeth gwrthiselder i'r plentyn, yn ogystal â'i gam-drin.

Doedd hi ddim yn y gwrandawiad rhagarweiniol fore Llun. Mae disgwyl i'r achos gychwyn ar 29 Ionawr.