Casnewydd i herio Spurs yng Nghwpan FA Lloegr

fa cup Image copyright Getty Images

Bydd Casnewydd yn croesawu Tottenham Hotspur i Rodney Parade ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.

Yn dilyn buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Leeds United o 2-1 yn y drydedd rownd, bydd tîm Michael Flynn yn chwarae'r clwb sydd ar hyn o bryd yn bumed yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae gêm fawr yn wynebu Caerdydd hefyd, os bydd yr Adar Gleision yn llwyddo i ennill oddi cartref yn Mansfield pan fyddan nhw'n ailchwarae ei gilydd.

Fe fethodd y ddau glwb â sgorio yn eu gornest ddydd Sadwrn.

Manchester City, sydd ar hyn o bryd ar frig Uwch Gynghrair Lloegr, fydd yn ymweld â phwy bynnag fydd yn fuddugol yn y gêm honno.

Bydd Abertawe yn gobeithio ennill yn erbyn Wolves yn Stadiwm Liberty pan fydd y ddau glwb yn cwrdd eto, gyda thaith i Notts County yn wynebu'r enillwyr yn y bedwaredd rownd.