Cynnig buddsoddi yn y cynllun morlyn
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cynnig buddsoddi i 'symud ymlaen' â morlyn Bae Abertawe

10 Ionawr 2018 Diweddarwyd 14:38 GMT

Mae Llywodraeth Cymru'n cynnig rhoi buddsoddiad "sylweddol" i gynllun morlyn Bae Abertawe er mwyn "symud ymlaen" gyda'r prosiect.

Yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones, mae Llywodraeth Prydain yn oedi cyn gwneud penderfyniad ar y cynllun, ac mae'n gobeithio bydd yr addewid ariannol yn galluogi gweinidogion yn San Steffan i wneud penderfyniad.

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn "edrych yn ofalus" ar y cynllun, ond bod angen "rhoi gwerth i gwsmeriaid".