Gwrthdrawiad A487: Cyhoeddi enwau dynes a babi fu farw

Anna Williams a Millie Wyn Ginniver Image copyright Llun Teulu
Image caption Bu farw Anna Williams, 22 oed o ardal Penrhyndeudraeth a Mili Wyn Ginniver oedd yn chwe mis oed mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A487 ddydd Iau

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes a babi a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd ddydd Iau.

Bu farw Anna Williams, 22 oed o ardal Penrhyndeudraeth yn y fan a'r lle ar ôl i'r car yr oedd yn teithio ynddo wrthdaro gyda lori.

Daeth cadarnhad yn ddiweddarach fod Mili Wyn Ginniver o Flaenau Ffestiniog oedd yn chwe mis oed, oedd hefyd yn teithio yn y car wedi marw yn Ysbyty Alder Hey Lerpwl.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad toc wedi 11:20 ar ffordd yr A487 ger pentref Gellilydan.

Mae gyrrwr y car Ford Fiesta yn cael ei henwi'n lleol fel mam i Mili a chwaer i Anna Williams.

Mae Sioned Williams yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol mewn uned arbenigol yn yr ysbyty yn Stoke.

Mae heddlu arbenigol yn parhau i gynorthwyo'r teulu ac maen nhw'n apelio i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101.

Image copyright Daily Post
Image caption Roedd ffordd yr A487 yng Ngellilydan wedi cau am rai oriau wedi'r gwrthdrawiad fore Iau

Straeon perthnasol