Deiseb yn galw am system marcio mynediad i bobl anabl

Graffeg
Image caption Byddai'r system farcio yn edrych ar doiledau i'r anabl, bwydlenni Braille a system cynorthwyo pobl fyddar

Dylai system "sgoriau ar y drws" gael eu cyflwyno er mwyn dweud pa mor dda yw mynediad i bobl anabl mewn siopau, tai bwytai a meddygfeydd meddai ymgyrchwyr.

Mae tua 2,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar adeiladau i gael eu sgorio o 0-5 gan ddefnyddio system debyg i'r un sy'n nodi hylendid bwyd.

Mae Simon Green, sydd yn defnyddio cadair olwyn, yn dweud bod ffrindiau wedi gorfod ei gario mewn i fwyty am nad oedd gweithwyr y bwyty wedi gosod ramp iddo, rhywbeth sydd yn "rhwystredig" meddai.

'Diddordeb' yn y syniad

Yn ôl Llywodraeth Cymru, gyflwynodd system sgoriau hylendid bwyd yn 2013, mae ganddyn nhw "ddiddordeb" gweld sut y byddai'n gweithio.

Dywedodd y llefarydd hefyd eu bod yn gweld "rhinwedd" y syniad.

Aelodau o Gynghrair Pobl Anabl Pen-y-Bont ddechreuodd y ddeiseb.

Maen nhw'n dweud ei bod hi'n aml yn anodd gwybod a oes gan adeiladau'r ddarpariaeth ddigonol, er enghraifft toiledau i'r anabl neu fwydlen Braille.

Image caption Mae Simon Green yn dweud ei fod yn teimlo fel niwsans weithiau pan mae'n gofyn am ramp

Mae rhai yn honni fod ganddyn nhw doiledau meddai'r grŵp ond maen nhw'n aml yn rhy fach er mwyn gallu ffitio cadair olwyn o faint cyffredin sydd yn cael ei ddarparu gan y gwasanaeth iechyd.

Ers tua 15 mlynedd, mae Mr Green, 42 oed, wedi defnyddio cadair olwyn. Mae ganddo niwroffibromatosis, cyflwr genetig sydd yn achosi i diwmorau ffurfio ar y meinwe nerfau.

Dywedodd fod ffrindiau wedi gorfod ei gario i fwyty ar gyfer parti Nadolig am nad oedd y staff wedi gosod ramp dros dro, a hynny er bod ei ffrindiau wedi ffonio'r bwyty ymlaen llaw i'w rhybuddio.

'Niwsans' i staff

"Roeddwn ni'n eistedd tu allan am ryw saith neu wyth munud ar ddiwrnod oer ym mis Rhagfyr."

"Fe aeth ffrind i mewn a siarad gyda sawl person yn y bar. Yn y diwedd fe gydiodd rhei ffrindiau yno fo a'n nghario fi i mewn. Dydy o ddim yn beth urddasol iawn. Dw i'n casau cael fy nghario," meddai.

Fe ymddiheurodd rheolwr y lle wedyn.

"Weithiau dach chi'n cael eich trin fel eich bod chi'n niwsans achos chi'n dweud wrth staff y bar, 'allwch chi nôl y ramp?' ac maen nhw wrthi yn gweini cwsmeriaid.

"Maen nhw'n dweud 'fyddwn ni yna mewn munud, ond mae'r funud honno yn troi yn chwech, saith, wyth munud, a dw i tu allan yn rhewi."

Image caption Yn ôl Sally Clark dyw nifer o leoliadau ddim yn gwybod sut i ddefnyddio system sŵn sydd yn cynorthwyo pobl fyddar yn effeithiol

Yr amcangyfrif swyddogol yw bod gan tua 20% o'r boblogaeth oed gwaith anabledd.

Mae Sally Clark o Borthcawl yn fyddar ac yn gwisgo mewnblaniad yn ei chlust. Mae ganddi gi i'w chynorthwyo ac yn dibynnu ar ddarllen gwefusau i ddeall be mae pobl yn dweud.

Ond er bod banciau, archfarchnadoedd a meddygfeydd yn hysbysebu bod ganddyn nhw system sŵn arbennig i gynorthwyo pobl fyddar, mae'r system yn aml wedi ei ddiffodd. Mae'r system yn gweithio trwy gael gwared ar sŵn cefndir.

Dyw staff hefyd ddim yn gwybod sut i droi'r system ymlaen.

Gwella safonau?

"Fe es i i weld John Bishop ychydig flynyddoedd yn ôl a doedd y system sŵn ddim yn gweithio. Am ei fod yn ddigrifwr, doedd yna ddim gobaith y bydden ni yn clywed unrhywbeth," meddai'r fenyw 60 oed.

Fe roddodd y lleoliad docynnau am ddim iddi ond roedd ei noson wedi ei difetha.

Gobaith y grŵp ym Mhen-y-Bont yw y bydd y ddeiseb yn helpu i godi safonau ar draws Cymru a gwneud hi'n haws i bobl anabl allu cael mynediad at fwy o adeiladau.

Maen nhw'n derbyn na fydd busnesau bach yn gallu ysgwyddo biliau mawr er mwyn gwneud addasiadau i'w hadeiladau.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Angen i bobl fod â'r agwedd iawn at bobl ag anableddau, medd Buddug Jones o Gŵn Tywys Gwynedd

Ond mae'r ymgyrchwyr yn dadlau bod modd i bawb wneud newidiadau bach sydd yn gallu gwneud newidiadau mawr i fywydau pobl.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedden nhw wedi synnu bod y ddeiseb wedi cael llawer o gefnogaeth.

"Mewn egwyddor, mae'r syniad yma i weld fel bod ganddo rywfaint o rinweddau ac fe fyddai gyda ni ddiddordeb gweld sut byddai cynllun tebyg yn gweithio."

Bydd y ddeiseb yn cael ei thrafod gan un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Straeon perthnasol