Ynys Bŷr: Gofyn i'r Twrnai Cyffredinol ailagor yr achos

Theresa a Joanna Biggs Image copyright Teresa a Joanna Biggs
Image caption Theresa a Joanna Biggs yn blant

Mae teulu merch a foddodd ar Ynys Bŷr oddi ar Sir Benfro 40 mlynedd yn ôl wedi gofyn i'r Twrnai Cyffredinol ailagor yr achos oherwydd eu cred nad yw penderfyniad y cwest gwreiddiol yn ddibynadwy.

Cafodd y cwest hwnnw ei gynnal ddau ddiwrnod wedi i Theresa Biggs, chwech oed, foddi ar 18 Gorffennaf 1977.

Mae ei rhieni, John a Carmen Biggs wedi croesawu'r posibilrwydd ei bod yn bosib y bydd eu hamheuon yn cael eu hateb o'r diwedd.

"Mae cymaint sydd angen ei ddatgelu," meddai John Biggs.

Ysgrifennodd y teulu at y Twrnai Cyffredinol, Jeremy Wright, yn gofyn iddo ailagor y cwest.

Maen nhw'n disgwyl penderfyniad ymhen 20 diwrnod.

Ysgubo i'r môr

"Mae fy nhad yn 80 ac rwyf am weld y cwestiynau yma'n cael eu hateb tra'i bod ef a fy mam dal yn fyw.

"Rwyf eisiau iddyn nhw fod yn dawel eu meddwl," meddai merch y cwpl, Joanna.

Fe ddechreuodd Ms Biggs ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth Theresa ddau fis yn ôl, ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod y mynach, y Tad Thaddeus Kotik, wedi bod yn cam-drin plant yn rhywiol ar Ynys Bŷr.

Dywed Ms Biggs iddi hi a'i chwaer hefyd gael eu cam-drin gan y mynach.

'Tystiolaeth anghyson'

Nôl yn 1977, fe gafodd y chwiorydd eu hanfon i aros gyda'u taid a nain ar ôl i'w mam roi genedigaeth i'w pedwerydd plentyn.

Tra eu bod ar yr ynys fe aed â nhw i fae Sandtop - traeth oedd yn adnabyddus am fod â cherrynt cryf - ac yno fe gafodd Theresa ei hysgubo i'r môr a bu farw.

Ers yr honiadau yn ymwneud â'r Tad Kotik, mae Ms Biggs wedi llwyddo i gael copi o ddogfennau'r cwest - dogfennau na chafodd eu gweld gan ei rhieni.

Mewn e-bost i'r Twrnai Cyffredinol, mae'r teulu'n honni nad oedd y cwest i farwolaeth Theresa yn drwyadl ac felly nad oedd canfyddiadau'r cwest yn ddibynadwy.

Maen nhw hefyd yn dweud fod tystiolaeth gafodd ei roi gan leian oedd yn goruchwylio Theresa yn groes i dystiolaeth llygaid dystion eraill.

Image caption Mae Abaty Ynys Bŷr wedi bod yn atyniad i ymwelwyr ar hyd y blynyddoedd

Dywedodd Mr Biggs: "Mae ensyniad gan y Chwaer Sheila Singleton fod plentyn chwech oed wedi boddi oherwydd ei bod yn anufudd - pan fod tystion eraill yn anghytuno gyda hi - wedi bod yn faich ar ein teulu am 40 mlynedd.

"Roedd Theresa yn ferch fach dda. Doedd hi ddim yn anufudd. Dyna sut yr ydym ni am ei chofio."

"Dyw dogfennau'r cwest ddim yn sôn chwaith am oedolion eraill oedd yn sefyll yn gweddïo ar y creigiau, tra bod y plant eraill yn ceisio achub y plentyn oedd mewn peryg."

Dywed Ms Biggs nad yw canfyddiadau'r crwner yn cwestiynu pam nad oedd yna unrhyw arwyddion na chwaith rhybuddion llafar ynglŷn â'r peryglon na "pham fod y plant wedi cael mynd i ddyfroedd oedd yn ymddangos yn beryglus i'r oedolion oedd yn bresennol."

Mae dogfennau gwreiddiol y cwest yn cynnwys datganiad y Chwaer Sheila oedd yn gwarchod y grŵp o blant, gan gynnwys Theresa a Joanna.

Dywed y teulu dod y dogfennau yn cynnwys tystiolaeth oedd yn anghyson, ond fe gafodd tystiolaeth y lleian ei dderbyn gan y crwner.

Dywedodd y Chwaer Sheila wrth y cwest fod Theresa wedi cael gorchymyn i beidio nofio, ond ei bod hi wedi peidio ufuddhau.

Image copyright Joanna Biggs
Image caption Mainc ar yr ynys er cof am Theresa a'i thaid

Mae Ms Biggs yn herio'r dystiolaeth, gan ddweud i'r lleian ofyn iddi sut oedd rhoi rhwymynnau braich ar ei chwaer.

Dywedodd iddi ddangos i'r lleian sut i'w rhoi ac yna sut i roi gwynt ynddynt.

Gan ei bod ond yn saith oed ar y pryd ni chafodd roi tystiolaeth i'r cwest.

Mae Ms Biggs hefyd yn dweud fod bachgen ar y traeth wedi rhoi tystiolaeth ysgrifenedig yn dweud iddo weld lleian yn mynd â Theresa i'r dŵr, a'i bod yn gwisgo gwisg nofio a rhwymynnau braich.

Dywed Mr Biggs, oedd yn y cwest yn 1977, iddo ond ddarganfod tystiolaeth bechgyn geisiodd achub ei ferch fis diwethaf, pan welodd ffeil y cwest am y tro cyntaf.

Dywedodd na chafodd tystiolaeth y bechgyn ei ddarllen yn y cwest, dim ond tystiolaeth y lleian.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol