Rholio pen Bendigeidfran i ddathlu'r Hen Galan

Pen Bendigeidfran Image copyright Parry & Glynn
Image caption Pen Bendigeidfran ar ddechrau ei daith

Mae model o ben Bendigeidfran wedi cael ei rolio ar hyd arfordir tref Penarth ym Mro Morgannwg, fel rhan o ddathliadau'r Hen Galan.

A hithau'n 13 Ionawr, mae'r Hen Galan yn nodi diwrnod cynta'r flwyddyn cyn i'r hen galendr Iwlaidd gael ei newid i'r calendr Gregori newydd yn 1752.

Un o'r ardaloedd sy'n dal i ddathlu'r Hen Galan yw Cwm Gwaun yn Sir Benfro, lle mae plant yn dal i ganu Calennig ar 13 Ionawr.

Ond ym Mhenarth, mae trefnwyr wedi nodi'r dyddiad drwy roi gwedd newydd ar y dathliadau.

Image caption Y Fari Lwyd a phen Bendigeidfran yn cael eu tywys i lawr y bryn i bier Penarth

Yn ôl Richard Parry, o'r ddeuawd artistig Parry & Glynn, mae'n ffordd o "ymchwilio i wraidd rhai o'n traddodiadau ni'r Cymry".

"Cafodd pen Bendigeidfran ei gludo i Lundain," meddai. "Ydyn ni'n cofio ei fod yno?"

"Byddwn yn mynd â'r Fari Lwyd i lawr y bryn ger y clogwyni, ar hyd glan y môr, yn canu i bobl ac yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda, a byddwn yn mynd â phen Bendigeidfran gyda ni.

"Ar ryw bwynt, byddwn yn ei drosglwyddo i eraill ac yn dweud, 'Dy dro di, nawr'.

"Ein gobaith yw bydd yn cyrraedd Llundain."

Un o syniadau Parry & Glynn, drwy gynnal y digwyddiad, yw i gael pobl at ei gilydd i gydweithio: "Allwch chi ddim â rholio pen cawr yr holl ffordd i Lundain ar eich pen eich hun.

"Rydych chi'n gwneud eich rhan, ac yn ei drosglwyddo i eraill."

"Efallai y bydd y pen yn aros ar y traeth ym Mhenarth, ond mae'n bosib y bydd pobl yn dewis ei rolio'r holl ffordd i Lundain. Pwy a ŵyr?"

Image copyright Parry & Glynn
Image caption Bydd pobl yn canu cân wrth rholio'r pen

"Os bydd yn cwympo'n ddarnau, bydd yn ben sydd wedi cael ei adael a'i anghofio, ond mae hynny'n iawn, achos onid ydyn ni gyd wedi anghofio pen Bendigeidfran? Onid yw Cymru wedi anghofio pen Bendigeidfran?

"Dwi'n gobeithio y bydd yn cyrraedd Bryn y Briallu."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol