Caerdydd 4-0 Sunderland

Caerdydd Image copyright Rex Features

Daeth Caerdydd â rhediad o ganlyniadau siomedig i ben gyda buddugoliaeth bwysig yn erbyn Sunderland yn y Bencampwriaeth.

Roedd cyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman yn ôl ar dir cyfarwydd yn Stadiwm Caerdydd, yn rhinwedd ei swydd newydd yn rheoli'r ymwelwyr.

Di-sgôr oedd hi ar yr hanner, gyda fawr ddim rhwng y ddau dîm, ond daeth tro ar fyd yn yr ail hanner.

Fe aeth Callum Paterson â Chaerdydd ar y blaen funud wedi'r egwyl, yn penio'r bêl i'r rhwyd o gic gornel.

Image copyright Rex Features
Image caption Roedd Chris Coleman yn ôl yn Stadiwm Caerdydd yn rhinwedd ei swydd yn rheoli Sunderland

Funudau'n ddiweddarach, fe aeth pethau o ddrwg i waeth i dîm Chris Coleman wrth i Didier Ndong gael cerdyn coch am dacl ar Junior Hoilett.

Daeth ail gôl i'r Adar Gleision wedi 55 munud, y tro hwn gan Joe Ralls.

Fe gollodd Sunderland bob gafael ar y gêm yn dilyn hynny, a daeth dwy gôl arall i Gaerdydd cyn y chwiban olaf - ail gôl i Callum Paterson wedi 80 munud, cyn i Anthony Pilkington selio'r fuddugoliaeth, yn taro cefn y rhwyd bedair munud i mewn i'r amser ychwanegol.

Mae'r canlyniad yn un calonogol i Gaerdydd, gollodd bedair gêm o'r bron yn y Bencampwriaeth dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Image copyright Rex Features
Image caption Callum Paterson yn gwylio'r bêl wrth iddo sgorio'i ail gôl yn erbyn Sunderland

Mae'r Adar Gleision yn codi i'r ail safle yn nhabl y Bencampwriaeth, am y tro o leiaf, tra bo rhai'n gofyn ai Chris Coleman yw'r dyn i achub Sunderland, wedi'r canlyniad trychinebus.