anabledd
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

'Angen yr agwedd iawn at bobl ag anableddau'

13 Ionawr 2018 Diweddarwyd 18:22 GMT

Dylai system "sgoriau ar y drws" gael eu cyflwyno er mwyn dweud pa mor dda yw mynediad i bobl anabl mewn siopau, tai bwytai a meddygfeydd meddai ymgyrchwyr.

Mae tua 2,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar adeiladau i gael eu sgorio o 0-5 gan ddefnyddio system debyg i'r un sy'n nodi hylendid bwyd.

Tra'n cydnabod y byddai system o'r fath yn beth da, mae Buddug Jones, Cadeirydd Cŵn Tywys Gwynedd, yn teimlo ei bod hi'r un mor bwysig meithrin yr agwedd iawn tuag at bobl ag anableddau.