Gweilch 15-15 Saracens

Gweilch Image copyright Ben Evans/Huw Evans Agency
Image caption Roedd perfformiad Dan Biggar yn allweddol

Llwyddodd cic gosb munud olaf gan Dan Biggar i gadw gobeithion Y Gweilch yng Nghwpan y Pencampwyr yn fyw wrth sicrhau gêm gyfartal yn erbyn y Saracens.

Mewn gêm dynn heb fawr o gyfleoedd, wnaeth yr un o'r ddau dim lwyddo i dorri drwy'r amddiffyn i sgorio cais.

Roedd ciciau Biggar ac Owen Farrell felly'n allweddol, gyda'r ddau yn trosi pum cic yr un, gyda chic Biggar yn yr eiliadau olaf yn achubiaeth i'r tîm cartref.

Mae'r canlyniad yn golygu fod gobeithion y Gweilch o gyrraedd 8 ola'r cwpan yn fyw, ond mae ganddyn nhw daith anodd i Clermont yr wythnos nesaf, pan mae'n fwy na thebyg y bydd angen buddugoliaeth arnyn nhw i aros yn y pencampwriaeth.

Pynciau Cysylltiedig