Joshua a Parker i ymladd yng Nghaerdydd

Gornest Image copyright Getty Images
Image caption Mae Joshua yn bencampwr teitlau IBF a WBA y byd

Daeth cadarnhad y bydd Anthony Joshua yn cwrdd â Joseph Parker yng ngornest focsio pwysau trwm unedig y byd yng Nghaerdydd ym mis Mawrth.

Joshua, sy'n 28 oed, yw pencampwr teitlau IBF a WBA y byd, tra bo Parker yn bencampwr WBO.

Stadiwm Principality Caerdydd, lle amddiffynnodd Joshua ei deitlau yn erbyn Carlos Takam fis Hydref, fydd lleoliad yr ornest.

Dywedodd hyrwyddwr Joshua, Eddie Hearn ei fod yn "falch o gael y frwydr hon" a'i bod yn hen bryd iddi gael ei chynnal.

Pynciau Cysylltiedig