Teyrngedau i bêl-droediwr o Abertawe

pel-droediwr Image copyright Google

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i bêl-droediwr fu farw ar ôl syrthio'n anymwybodol yn ystod gêm yn Abertawe.

Roedd Mitchell Joseph, 32 oed, yn chwarae dros glwb St Joseph yng Nghynghrair Bêl-droed Hŷn Abertawe ddydd Sadwrn.

Cafodd ei gludo i ysbyty Treforys wedi i chwaraewyr o'r ddau dîm geisio ei helpu ar y cae, ond bu farw'n ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb fod pawb wedi eu "tristau'n fawr".

'Rhan enfawr o'r clwb'

Dywedodd Patrick Cullen, un o aelodau pwyllgor y clwb: "Roedd e'n rhan enfawr o'r clwb ar ac oddi ar y cae.

"Mae'r negeseuon ry' ni wedi cael oddi wrth y timau eraill yn Abertawe wedi bod yn anhygoel ac mae bron bob tîm wedi cynnig cyfrannu arian at gostau'r angladd.

"Mae'n cydymdeimlad gyda'i ddyweddi Laura a gweddill ei deulu."