Oes aur newydd i gerddoriaeth Gymraeg?

gruff

Pa mor iach yw'r sin gerddoriaeth Gymraeg heddiw? Oes gymaint o gigs ag oedd blynyddoedd yn ôl ac oes amrywiaeth fel oedd yn y gorffennol?

Gruff Owen o label recordiau Libertino sy'n rhannu ei deimladau am sefyllfa cerddoriaeth Gymraeg gyda Cymru Fyw:


Dwi'n meddwl bod hi'n sefyllfa iach ar y foment, ac mewn lle positif a chyffrous. Mae lot o bethe newydd yn digwydd fel Menter Iaith Sir Benfro yn dechre rhywbeth o'r enw Sel-Sig fydd yn cynnal gigs. Mae Cymdeithas yr Iaith yn weithgar iawn o hyd ac mae canolfannau fel Clwb Ifor Bach a Chlwb y Bont yn hynod o bwysig i'r sin.

Beth sy'n bwysig i'r sin gerddoriaeth yng Nghymru ffynnu yw'r gigs bach. Y gigs bach yw calon y sin gerddoriaeth dal i fod. Yn y gigs bach yma mae bandiau yn dysgu i fod yn gerddorion ac yn datblygu.

Pan o'n i'n yr ysgol roedd yna lawer iawn o gigs 'mlaen, ond wedyn roedd 'na gyfnod 'falle pan roedden nhw yn fwy prin. Ond yn bendant yn y flwyddyn dwetha dwi'n teimlo bod y sin yn iach gan fod llawer iawn o fandiau ac amrywiaeth mawr o gerddoriaeth.

Image copyright Gerallt Llywelyn
Image caption Roedd Pafiliwn Corwen dan ei sang yn y 70au a'r 80au cynnar ar gyfer noson wobrwyo Sgrech

Hyder newydd

Dwi'n teimlo bod pethe sy'n digwydd yn y sin nawr yn debyg i'r hyn oedd yn digwydd yn y 90au cynnar, ble odd gen ti amrywiaeth. Mae'n wych gweld mwy o ferched ifanc yn eu harddegau yn rhan o'r sin, a bydd hynny'n dwyn ffrwyth mewn rhyw bum mlynedd.

Mae'n gyffrous achos dwi'n teimlo bod rhywbeth yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd, 'falle rhyw hyder sydd gan bobl ifanc heddiw ac mae pobl yn sylwi.

Mae llawer o fandiau Cymraeg yn chwarae mewn gigs dwyieithog nawr - ar label Libertino mae Los Blancos ac Adwaith yn chwarae mewn gigs gyda dau fand Saesneg ac yn canu yn Gymraeg.

Mae hynny yn hynod o iach dwi'n meddwl ac mae'n dod â cherddoriaeth Gymraeg i gynulleidfa gwbl wahanol. Mae'n gwneud canu yn y Gymraeg yn rhywbeth i Gymru gyfan. Mae'n bwysig i ni edrych ar bethau yma fel 'sin gerddoriaeth', yn hytrach na dim ond 'y sin Gymraeg'.

Mae mwy o gerddoriaeth Gymraeg yn cael ei chlywed tu allan i Gymru nac erioed. Dwi'n meddwl yn rhannol am fod ni ddim yn trio plesio eraill, mae'n rhan o ddathliad ac mae 'na hyder tawel o greu cerddoriaeth maen nhw eisiau ei greu a ddim yn trio dilyn be sy'n boblogaidd yn y sin Lloegr neu yn America.

Mae lot o'r hyder 'ma 'di dod o ddilyn esiampl bandiau fel y Super Furries a Cate Le Bon, Datblygu ac eraill. Mae Gwenno a 9Bach yn dangos y ffordd heddi.

Falle mai'r gân ddwyieithog fwyaf poblogaidd erioed yw'r Patio Song gan Gorky's Zygotic Mynci - roedd gen i ffrindie coleg o Lundain o'dd yn gwybod y geiriau i ail hanner Cymraeg y gân.

Image copyright Medwyn Roberts
Image caption Datblygu: Un o fandiau arloesol Cymru yn yr 80au a 90au

Y meddylfryd 'DIY'

Dyddie 'ma dwi'n gweld bandiau yn rhoi gigs 'mlaen eu hunain, sydd yn iach iawn. Dydy bandiau ddim yn aros i gael cynnig gig. Yn lle "does dim lot o gigs 'mlaen" mae bands yn dweud "'dyn ni am roi gig 'mlaen".

Mae posib cael venue am £50 a benthyg system PA gan ffrind - mae gig gennych chi wedyn a 'dych chi'n dysgu wrth fynd ymlaen a dysgu drwy wneud camgymeriadau. Mae'n wych bo' ni nôl yn y meddylfryd DIY a'r ffordd pync o feddwl.

Does dim rhaid i gigs fod yn fawr. Dwi'n teimlo weithie bod cael 20 o bobl yno sydd wir yn deall y band ac yn teimlo yn reddfol am y sin yr un mor bwysig â chael torf o 3,000 o bobl yn y Steddfod.

Allen ni ddim bod yn complacent, ac mae rhaid parhau i gydweithio rhwng y perfformwyr, y bobl sy'n hyrwyddo, y labeli. Ond dwi'n meddwl bydde fe'n neis cael mwy o gerddoriaeth Gymraeg ar y teledu.

Ar un adeg roedd Bandit, Fideo 9 ac iDot, ond does dim cymaint o gyfleoedd heddiw. Dwi'n gwybod bod hi'n bosib gweld pethe ar y we ond mae'r teledu dal yn bwysig, ac yn gyfle i ehangu'r apêl.

R'yn ni'n dechrau sylweddoli yn y diwylliant Cymraeg pa mor bwysig yw diwylliant amgen/pop. Falle am bo' ni'n dod o fyd eisteddfodol ble mae llenyddiaeth yn fwy pwysig, mae pobl yn sylweddoli nawr bod y diwylliant yn marw heb albwms Cymraeg ac heb fandiau sy'n canu'n Gymraeg.

Dwi'n credu bod gymaint o ddiwylliant gwych ganddom ni yn Gymraeg - i fi mae albwm cynta' Genod Droog yr un mor bwysig ag albwm cyntaf y Pixies.

Dwi eisiau gweld bandiau Cymraeg gyda digon o hyder yn eu hunain, a bod y gefnogaeth yno i artistiaid gwahanol a lleisiau newydd. Mae cymaint o botensial yno.

Pynciau Cysylltiedig