'Hen bryd codi cofeb i Niclas y Glais' yn ôl awdur

Niclas y Glais

Mae hi'n "hen bryd codi cofeb" i'r Pregethwr, Bardd, Sosialydd a Deintydd, TE Nicholas, yn ei fro enedigol, yn ôl awdur cofiant diweddar iddo.

Roedd Niclas y Glais yn ffigwr dadleuol yn ei ddydd yn sgil ei ddaliadau gwleidyddol, ei Heddychiaeth a'i ddaliadau Gweriniaethol.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd ei dargedu gan yr awdurdodau am ei fod yn pregethu yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Teulu Brenhinol o'r pulpud.

Cafodd Niclas a'i fab Islwyn, eu carcharu ar gam ar amheuaeth o fod yn ffasgwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd y cyhuddiadau yn eu herbyn yn gwbl ddi-sail.

'Daliadau sosialaidd cynnar'

Roedd y cyfnod hwnnw yng Ngharchar Brixton yn Llundain, yn un o'r cyfnodau mwy cynhyrchiol iddo fel Bardd.

Yn ôl Hefin Wyn, fe gyfansoddodd 187 o sonedau yn ystod ei gyfnod dan glo, ac yn aml roedd y cerddi hynny yn aml yn cael ei sgwennu ar bapur tŷ bach a'u cludo i'r byd tu allan.

Cafodd Niclas ei fagu am gyfnod ym Mhentregalar ar lethrau'r Preselau, a dyma yn ôl Mr Wyn, yw'r lle addas i godi carreg goffa iddo.

Fe'i magwyd mewn bwthyn bach o'r enw Llety, sydd erbyn hyn yn adfail.

Mewn cyfweliad â'r BBC, dywedodd mai dyma ble y ffurfiwyd ei ddaliadau sosialaidd cynnar, yn cydweithio â ffermwyr eraill ar y cynhaeaf gwair.

Image caption Mae Hefin Wyn yn ymgyrchu dros gael cofeb

Yn ôl Hefin Wyn, mae'n bryd cael cofeb iddo yn ei fro enedigol.

Dywedodd: "Mae'n ddyn go arbennig, dyn egwyddorol.. yr ardal hon a wnaeth e y dyn oedd e. Mae yna draddodiad hir o godi meini i gofio pobl. Mae'n rhaid i ni gofio fe.

"Mae'n ddyddiau cynnar, bydd rhaid galw pwyllgor, ond fe hoffen ni godi cofeb ger y Llety, y tyddyn ble cafodd ei godi lan ar bwys Crugiau Dwy.

"Falle taw'r geiriau ar y gofeb fydd y geiriau 'Dwi'n gweld o bell y dydd yn dod' sef geiriau o un o'i sonedau," meddai.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Sian Howys wedi astudio bywyd a gwaith Niclas y Glais

Mae cofiant diweddar Hefin Wyn wedi datgelu i Niclas gael nifer o blant tu allan i briodas.

Ar ôl gadael y Weinidogaeth, bu'n ddeintydd yn Aberystwyth, er mwyn ennill bywoliaeth.

Mae Mary Winter, Sosialydd o Aberdâr, yn credu fod "hi'n bryd ailddysgu'r math o beth roedd Niclas y Glais yn credu ynddo fel cyfiawnder a'r iaith Gymraeg, egwyddorion oedd yn glos ato fe. Roedd e'n credu yng Nghymru ond yn meddwl mewn termau rhyngwladol."

Bu farw TE Nicholas yn 91 oed ym 1971. Cafodd ei lwch ei wasgaru ar fryniau'r Preselau ger ei gartref teuluol.