Cyhuddo dyn o lofruddiaeth yn Abertawe fis Rhagfyr

David Wynne Image copyright Llun Teulu
Image caption Roedd David Wynne yn dad i bedwar o blant

Mae dyn 29 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn arall yng nghanol Abertawe fis dweithaf.

Bu farw David Wynne, 39 oed o Gendros, yn Ysbyty Treforys ddydd San Steffan wedi ymosodiad ar Stryd Fawr y ddinas nos Sadwrn 23 Rhagfyr.

Mae disgwyl i Kyle Dunbar o ardal Fforestfach fynd o flaen Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 22 Ionawr.

Roedd eisoes yn y ddalfa ar ôl mynd o flaen ynadon wedi ei gyhuddo'n wreiddiol o geisio llofruddio.

Mewn teyrnged dywedodd teulu Mr Wynne ei fod yn "berson teuluol a chariadus oedd yn gweithio'n galed, a fydd yn gadael pedwar o blant ar ei ôl".

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol