Llofruddiaeth Casnewydd: Cyhuddo dyn

Anthony Bubbins Image copyright Llun Teulu
Image caption Fe gafodd corff Anthony Bubbins, 57 oed ei ddarganfod mewn cyfeiriad yng Nghasnewydd

Mae dyn 54 oed wedi'i gyhuddo o lofruddio dyn arall yng Ngwent.

Fe gafodd corff Anthony Bubbins, 57 oed ei ddarganfod mewn cyfeiriad ar Ffordd Brynderwen yng Nghasnewydd gan swyddogion am tua 15:30 ddydd Llun.

Fe wnaeth yr heddlu arestio Paul Paget o'r ddinas ar amheuaeth o lofruddiaeth, ond maen nhw bellach wedi'i gyhuddo.

Fe wnaeth Mr Paget ymddangos o flaen ynadon yng Nghasnewydd ddydd Sadwrn. Mae wedi'i gadw yn y ddalfa cyn iddo ymddangos yn Llys y Goron y ddinas ar 22 Ionawr.

Straeon perthnasol