Hartlepool 0-2 Wrecsam

Scot Quiggley Image copyright Getty Images
Image caption Fe sgoriodd Scott Quigley ddwy gêl wych i Wrecsam yn erbyn Hartlepool

Ennill oedd hanes Wrecsam oddi cartref yn erbyn Hartlepool ddydd Sadwrn diolch i ddwy gôl wych gan Scott Quigley ar ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb.

Wrecsam ddechreuodd y gêm orau, gyda Scott Quigley sydd ar fenthyg o Blackpool yn gwneud argraff yn ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb.

Fe aeth Wrecsam yn agos wedi pum munud, gwaith da gan Quigley ac ergyd Boden yn cael ei arbed yn dda gan golwr Hartlepool.

Roedd Wrecsam yn llwyr reoli'r hanner cyntaf, dylai Quigley fod wedi sgorio dau funud cyn hanner amser, ond fe gafodd ei ergyd o chwe llath ei harbed.

Fe ddechreuodd Wrecsam yr ail hanner yn yr un modd.

Rhu gyflym

Fe sgoriodd Scott Quigley gôl gampus yn ei gêm gyntaf i'r clwb i dorri calon rheolwr Hartlepool, Craig Harrison, oedd yn arfer bod yn rheolwr ar Quigley yn Y Seintiau Newydd.

Fe lwyddodd Quiggley i redeg gyda'r bêl am 40 llath cyn pasio'r bêl i gefn y rhwyd heibio i Loach yn y gôl.

Daeth ail gôl Wrecsam wedi 72 o funudau, gyda Quigley unwaith eto yn rhedeg 40 llath, roedd yn rhu gyflym i chwaraewyr Hartlepool ac fe sgoriodd osododd y bêl yng nghefn y rhwyd.

Gyda chwarter awr yn weddill fe gafodd Quigley ei eilyddio i sŵn cymeradwyaeth gan gefnogwyr Wrecsam.

Llwyddodd Wrecsam i reoli gweddill y gêm a sicrhau buddugoliaeth gyfforddus o 2-0.