Cwpan Her Ewrop: Dreigiau 33-17 Bordeaux-Begles

Dreigiau Image copyright Huw Evans picture agency

Llwyddodd y Dreigiau i sicrhau'r ail safle yng Ngrŵp Un yng Nghwpan Her Ewrop wedi buddugoliaeth o 33-17 yn erbyn Bordeaux-Begles.

Elliot Dee sgoriodd y cais i'r Dreigiau i sicrhau fod y sgôr yn 5-3 ar hanner amser.

Croesodd Cory Hill, Ashton Hewitt, Lloyd Fairbrother a Pat Howard yn yr ail hanner i'r Dreigiau gyda Fa'asui Fuatai and Jules Gimbert yn sgorio ceisiau i Bordeaux.

Bydd Brendan Jackman yn falch o dalu'r pwyth yn ôl ar ôl i'r Dreigiau golli o 36-28 y penwythnos diwethaf yn Ffrainc.

Er gwaethaf buddugoliaeth y Dreigiau fe fethodd nhw â sicrhau lle yn rownd yr wyth olaf fel yr ail dîm gyda'r cyfanswm mwyaf o bwyntiau.