Cwpan Her Ewrop: Lyon 18-21 Gleision

Lloyd a Tomos Williams Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Lloyd a Tomos Williams sgoriodd y ceisiau yn erbyn Lyon

Yn gêm olaf y grŵp yng Nghwpan Her Ewrop, ennill oedd hanes y Gleision oddi cartref yn Lyon o 21-18.

Mae'r Gleision wedi gorffen ar frig y grŵp wedi'r fuddugoliaeth ddydd Sadwrn.

Dylan Cretin sgoriodd y cais cyntaf i Lyon ac yn dilyn camgymeriad gan Alex Cuthbert, fe ruthrodd Pierre-Louis Barassi i groesi am yr ail wedi 23 munud.

Gyda'r hanner cyntaf yn dirwyn i ben fe groesodd Lloyd Williams i'r Gleision i sicrhau fod y sgôr yn 12-7 ar yr egwyl i'r tîm cartref.

Pum munud fewn i'r ail hanner fe gafod Caerdydd cais gosb cyn i Lionel Beauxis gicio'n gywir dwywaith i roi Lyon bedwar pwynt ar y blaen.

Gyda chwarter awr yn weddill sgoriodd Tomos Williams i'r Gleision a gyda chic Evans yn hedfan rhwng y pyst, roedd y Gleision yn dathlu buddugoliaeth o 21-18 allan yn Ffrainc.

Bydd y Gleision oddi cartref yn erbyn Caeredin yn rownd wyth olaf y gwpan, fydd yn cael ei chwarae ar benwythnos olaf mis Mawrth.