Cwpan FA Lloegr: Caerdydd 0-2 Man City

Caerdydd 0-2 Man City Image copyright Getty Images
Image caption Kevin De Bruyne sgoriodd gôl gyntaf y gêm gyda chic rydd wych wedi 8 munud

Mae Caerdydd allan o Gwpan FA Lloegr ar ôl colli gartref o 2-0 yn erbyn Man City.

O'r munud cyntaf fe ddangosodd Man City pam mai dim ond un gêm gynghrair maen nhw wedi colli'r tymor hwn a pham mai nhw sydd ar frig Uwch Gynghrair Lloegr.

Roedden nhw'n llwyr reoli'r chwarae a daeth y gôl gyntaf wedi wyth munud.

Cic rydd arbennig gan Kevin De Bruyne, a lwyddodd i gadw'r bêl yn isel wrth i bob chwaraewr oedd yn wal amddiffynnol Caerdydd neidio.

Daeth unig gyfle Caerdydd o'r hanner cyntaf wedi 15 munud.

Un cyfle i Gaerdydd

Fe geisiodd Junior Hoilett gydag ergyd o bell, a gollyngodd Claudio Bravo'r bêl gydag ambell un yn y stadiwm yn credu ei fod wedi croesi'r llinell gôl, ond fe wnaeth y dechnoleg brofi nad oedd hynny wedi digwydd.

Image copyright Getty Images
Image caption Roedd David Silva yn credu ei fod wedi sgorio gyda ergyd wych ond dywedodd y llumanwr fod Leroy Sane yn camsefyll

Dylai Man City fod wedi mynd ymhellach ar y blaen drwy ergyd wych gan David Silva, ond roedd y llumanwr yn credu fod Leroy Sane yn camsefyll, er i'r lluniau ddangos fel arall.

10 munud yn ddiweddarach fe sgoriodd Man City eto, Raheem Sterling y tro hwn gyda pheniad o groesiad fewn i'r cwrt cosbi, a doedd dim amheuaeth y tro hwn fod y gôl yn cyfri'.

Daeth yr hanner cyntaf i ben gyda Man City yn hawlio 78% o feddiant yn yr hanner cyntaf, ac roedd 45 munud anferth yn wynebu Caerdydd os am unrhyw obaith o aros yn y gwpan.

Amddiffyn disgybledig

Fe ddechreuodd Man City yn debyg i'r ffordd orffennodd nhw'n hanner cyntaf, yn rheoli'r meddiant, gyda Sergio Aguero yn dod ymlaen fel eilydd yn lle Sane.

Daeth Caerdydd yn well wrth i'r hanner fynd yn ei flaen. Fe aeth Kenneth Zahore yn agos gydag ergyd wedi 64 o funudau, ond roedd Nicolas Otamendi yno i'w gau lawr.

Fuodd bron i Junior Hoilett sgorio gydag ergyd wych o 15 llath, ond gyda Bravo wedi'i guro yn gôl roedd yr ergyd fymryn rhy uchel.

Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd amddiffynwr Caerdydd, Joe Bennett ei anfon o'r maes gyda dau funud yn weddill o'r gêm

Roedd Man City yn parhau i bwyso, ond roedd amddiffyn yr Adar Gleision yn llawer mwy disgybledig yn yr ail hanner.

Fe aeth diwrnod Caerdydd o ddrwg i waeth ddau funud cyn diwedd y gêm, gyda'r amddiffynwr Joe Bennett yn cael ail gerdyn melyn a chael ei anfon o'r maes.

Daeth y gêm i ben gyda buddugoliaeth haeddiannol i Man City a nhw fydd yn camu ymlaen i bumed rownd Cwpan FA Lloegr.

Pynciau Cysylltiedig