Caiaciwr o Gaerdydd ar goll yn Ecwador: Canfod corff

Adam Vaughan Image copyright Facebook
Image caption Does neb wedi gweld Adam Vaughan ers i grŵp o gaiacwyr fynd i drafferthion mewn llifogydd ar 20 Ionawr

Mae'r gwasanaethau brys yn Ecwador sy'n rhan o'r ymgyrch chwilio am hyfforddwr caiacio o Gaerdydd sydd ar goll wedi canfod corff.

Bu farw dau ddyn o Iwerddon yn dilyn y digwyddiad ar afon Abanico ar 20 Ionawr, a dydy Adam Vaughan, 22, ddim wedi ei weld ers hynny.

Cafodd dau arall oedd yn rhan o'r un grŵp - un o'r UDA ac un o Ecwador - eu hachub.

Mae Mr Vaughan yn gyn-fyfyriwr Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn hyfforddwr yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Caerdydd.

Roedd yn is-lywydd ar glwb caiacio'r brifysgol yn ystod ei gyfnod yn y coleg, ac fe gafodd ei ddisgrifio gan lefarydd ar ran Undeb Myfyrwyr Caerdydd fel "athro ysbrydoledig".

Mae cyrff y ddau Wyddel - David Higgins, 26 oed o Kerry, ac Alex McGourty, 19 oed o Sligo - wedi eu canfod.

Nid yw'r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol