'Dyn lleol' wedi marw mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn

heddlu

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi i berson farw mewn gwrthdrawiad ar Ynys Môn.

Fe gafodd yr heddlu eu galw am 18:52 nos Lun i wrthdrawiad rhwng cerbyd a pherson rhwng cyffordd 5 a 6, ger troad Llangefni ar yr A55.

Bu farw'r dyn, oedd yn byw yn lleol, ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw ar 101.