Menyw'n marw wedi gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin

B4302 Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad yn ardal New Inn

Mae'r heddlu yn ymchwilio ar ôl i gerddwr farw ar ôl cael ei tharo gan fan yn ardal Llandeilo, Sir Gaerfyrddin.

Roedd y ddynes yn cerdded ar y B4302 yn ardal New Inn tua 18:00 ddydd Llun.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Mae'n ymddangos fod y fenyw wedi ei tharo gan gar tra'n cerdded ar y ffordd rhwng Llandeilo a Thalyllychau.

Fe wnaeth y gyrrwr gysylltu â'r heddlu ynglŷn â'r digwyddiad.

Roedd y fan Volkswagen gwyrdd yn teithio o gyfeiriad Rhosmaen i Dalyllychau.

Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.