Gwneud cais am statws Awyr Dywyll i Fryniau Clwyd

Bryniau Clwyd
Image caption Mae Bryniau Clwyd yn ymestyn o Brestatyn ar yr arfordir tua'r de i Landegla

Mae pwyllgor Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi penderfynu cyflwyno cais i geisio sicrhau statws Awyr Dywyll.

Yn ôl adroddiad aeth o flaen aelodau'r pwyllgor, mae asesiad cynnar yn awgrymu bod ansawdd yr awyr yno yn ateb gofynion y statws, ond mae angen camau i fynd i'r afael â materion yn Llangollen a rhai ardaloedd yng ngogledd-ddwyrain yr ardal.

Pe bai cais yn cael ei gymeradwyo, fe fyddai'n golygu bod gan Gymru dair Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol.

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog oedd y cyntaf yng Nghymru i gael y statws yn 2013, gydag Eryri yn ail yn 2015.

'Manteision amlwg'

Dywedodd yr adroddiad bod ymchwil wedi'i gynnal yn y ddwy flynedd diwethaf i weld pa gamau sy'n angenrheidiol i ateb gofynion y statws.

Mae'r ymchwil yn cynnwys ymgynghori gyda busnesau'r ardal, a grwpiau cymunedol a gwirfoddol.

Dywedodd awdur yr adroddiad, David Shiel, o wasanaeth cefn gwlad Cyngor Sir Ddinbych: "Er bod yna ychydig o ardaloedd o bryder [Llangollen a rhywfaint o'r ardaloedd yn y gogledd-ddwyrain], mae asesiad cychwynnol o safon yr awyr yn yr AHNE yn dangos y byddai ansawdd yr awyr ar y cyfan yn bodloni'r safonau gofynnol ar gyfer dynodiad Awyr Dywyll."

Ychwanegodd: "Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar wella safon yr awyr ddu ar draws yr AHNE a'r sawl mantais y bydd hyn yn ei gael o ran iechyd y cyhoedd, bioamrywiaeth, arbed ynni a'r economi twristiaeth.

"Mae'r manteision yn amlwg iawn mewn ardaloedd megis Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Eryri, Northumberland ac ardaloedd eraill sydd â Statws Awyr Dywyll."

Yn ôl yr adroddiad mae effaith goleuadau'r prif drefi ac o gyfeiriad Glannau Dyfrdwy, Caer a Glannau Mersi "yn cael effaith sylweddol ar lonyddwch, yn enwedig gyda'r nos, gan dreiddio i dywyllwch cymharol yr awyr tua de a gorllewin yr AHNE".

"Fodd bynnag, mae'n bosib ceisio mynd i'r afael â hynny ac mae camau y medrir ac y dylid eu cymryd o fewn yr AHNE ei hun i leihau llygredd golau," meddai'r adroddiad.

Mae ansawdd yr awyr yn dda iawn mewn rhannau mawr o'r AHNE, meddai Mr Shiel, gan gynnwys yr atynfeydd twristaidd poblogaidd, Bwlch yr Oernant a Moel Famau.

Image copyright PA

£20,000 yw cost tebygol cyflwyno cais i'r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol a llunio cynllun rheoli golau, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyfrannu hanner yr arian.

Un o gymhlethdodau llunio cynllun rheoli golau yw'r ffaith fod yr AHNE o fewn ffiniau tair sir - Dinbych, Y Fflint a Wrecsam - sydd â pholisïau goleuo gwahanol.

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am oleuo'r tair prif ffordd o fewn yr AHNE, sef yr A55, yr A5 a'r A494.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol