'Mi fyddai wastad ar gael i fy ngwlad'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Owain Fôn Williams: 'Cyntaf yna pan fydd fy ngwlad yn galw'

2 Chwefror 2018 Diweddarwyd 17:22 GMT

Ar ddiwrnod olaf y ffenestr drosglwyddo daeth cyhoeddiad fod golwr Cymru, Owain Fôn Williams wedi arwyddo ar fenthyg i dîm Indy Eleven yn yr Unol Daleithiau.

Mae'n dweud ei bod hi'n amser iddo adael Inverness Caledonian Thistle yn Yr Alban, ac er iddo dderbyn cynigion gan dimau yno ac yn Lloegr, fe benderfynodd arwyddo i Indy Eleven.

Mae Indy Eleven, sydd wedi'i lleoli yn nhalaith Indiana, yn cystadlu yng nghynghrair yr USL, sef un cynghrair yn is na'r MLS.

Gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Owain Llŷr fu'n ei holi.