Gemau'r Gymanwlad: Proffil Josh Griffiths
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Gemau'r Gymanwlad: Proffil y rhedwr Josh Griffiths

2 Chwefror 2018 Diweddarwyd 21:10 GMT

Josh Griffiths oedd y rhedwr cyntaf o Brydain i groesi'r llinell ym Marathon Llundain y llynedd, felly mae'n argoeli'n dda iddo wrth edrych 'mlaen at Gemau'r Gymanwlad yn Awstralia eleni.

Yn y diweddaraf yng nghyfres Newyddion 9 yn edrych ar y Cymry fydd yn cystadlu eleni, aeth Iwan Griffiths i gwrdd â rhedwr clwb Swansea Harriers ac un arall fydd yn rhedeg y marathon, Elinor Kirk.