Adran Dau: Colchester 2-0 Casnewydd

Frank Nouble yn penio'r bêl i Gasnewydd Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Frank Nouble yn penio'r bêl i Gasnewydd

Colli oedd hanes Casnewydd ddydd Sadwrn am yr ail dro o'r bron ers wynebu Tottenham Hotspur ym mhedwaredd rownd Cwpan FA Lloegr.

Ben Stevenson a Tom Eastman wnaeth sgorio'r goliau - y ddau yn yr ail hanner.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Colchester wedi codi un safle uwchben Casnewydd yn y tabl, a'r tîm o Gymru bellach yn 11eg yn Adran Dau.

Dywedodd rheolwr Casnewydd Michael Flynn bod y tîm heb ymdrechu'n ddigon da ar ôl i'r gwrthwynebwyr fynd ar y blaen.

"Cyn hynny, roeddwn ni'n credu taw ni oedd y tîm gorau.

"Rydym wedi ildio chwe gôl flêr ers i ni sgorio yn erbyn Tottenham.

Pynciau Cysylltiedig