Abertawe: Tymor Leroy Fer a Wilfried Bony ar ben

Leroy Fer yn gadael y maes Image copyright Getty Images

Ni fydd dau o chwaraewyr Abertawe yn chwarae eto y tymor yma oherwydd anafiadau.

Mae'r chwaraewr canol cae Leroy Fer a'r ymosodwr Wilfried Bony angen llawdriniaeth ar ôl cael eu hanafu yng ngêm gyfartal yr Elyrch yng Nghaerlŷr ddydd Sadwrn.

Fe gafodd Fer ei gludo o'r maes yn yr hanner cyntaf ar ôl torri gweyllen y ffêr (Achilles tendon).

Mae Bony wedi torri tennyn croesffurf y ben-glin (Anterior cruciate ligament).

Mewn datganiad, dywedodd y clwb bod Bony wedi cael anaf yn fuan iawn ar ôl dod i'r maes fel eilydd wedi 71 munud, ond fe lwyddodd i aros ar y cae tan y diwedd.

Ers dychwelyd i Abertawe o Manchester City haf diwethaf, mae Bony wedi sgorio tair gôl mewn 19 gêm.

Mae Fer hefyd wedi sgorio tair gôl y tymor yma mewn 26 o gemau.

Roedd sicrhau pwynt gyda'r gêm gyfartal 1-1 yng Nghaerlŷr yn ddigon i godi Abertawe i 17eg safle'r Uwch Gynghrair.

Pynciau Cysylltiedig