Gemau'r Gymanwlad: Proffil Non Stanford
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Gemau'r Gymanwlad: Proffil Non Stanford

5 Chwefror 2018 Diweddarwyd 20:23 GMT

Mae Non Stanford yn ysu am gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad eleni ar ôl methu'r gystadleuaeth bedair blynedd yn ôl oherwydd anaf.

Daeth Stanford i amlygrwydd byd eang ar ôl ennill Pencampwriaeth Triathlon ITU y Byd yn 2013, a daeth yn bedwerydd yng Ngemau Olympaidd Rio yn 2016.

Yn y diweddaraf yng nghyfres Newyddion 9 yn edrych ar y Cymry fydd yn cystadlu yn Awstralia eleni, Iwan Griffiths aeth i gwrdd â'r athletwr 29 oed o Abertawe.