Oedi mewn diagnosis canser y coluddyn
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Gwraig y diweddar Irfon Williams yn galw am weithredu

6 Chwefror 2018 Diweddarwyd 06:34 GMT

Mae elusen wedi galw am weithredu i wella diagnosis cynnar i gleifion sydd â chanser y coluddyn, gan ddweud bod y cyfraddau goroesi yng Nghymru yn "gwbl annerbyniol"

Mae Bowel Cancer UK am weld Llywodraeth Cymru yn creu targedau ar gyfer gwelliannau, gan ddweud bod niferoedd "brawychus" yn aros yn rhy hir ar gyfer profion.

Dywed llywodraeth Cymru fod e cyfradd y rhai sy'n goroesi canser yn parhau i wella a bod pwyslais ar ganfod canser yn gynharach.

Mae Becky Williams, gweddw'r ymgyrchydd canser, y diweddar Irfon Williams, yn dweud fod angen llunio cynllun i wella'r sefyllfa yng Nghymru.