Gwrthdrawiad ffordd angheuol yn Sir y Fflint

A548 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A548 ger Sealand

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a lori yn Sir y Fflint ddydd Mawrth.

Cafodd swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r gwrthdrawiad ar yr A548 ger Sealand ychydig cyn hanner dydd.

Bu'n rhaid i'r heddlu gau'r ffordd yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng car Renault Megane a lori.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn oedd yn gyrru'r car wedi marw yn y fan ar lle a bod dynes oedd hefyd yn teithio yn y car wedi cael ei chludo mewn hofrennydd i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol iawn.