Cwpan FA Lloegr: Tottenham Hotspur 2-0 Casnewydd

Erik Lamela Image copyright Getty Images
Image caption Lamela sgoriodd yr ail i Spurs

Er gwaethaf eu breuddwydion a chefnogaeth dros 7,000 o'u dilynwyr fe ddaeth taith Casnewydd yng Nghwpan FA Lloegr i ben yn Wembley nos Fercher.

Gôl yn y munudau olaf wnaeth achub Spurs ar Rodney Parade, ond yn Wembley roedd hi'n stori wahanol.

Ar ôl 26 munud fe wnaeth croesiad Moussa Sissoko daro Dan butler o Gasnewydd cyn diweddu yn y rhywd.

Yna, cyn yr egwyl fe wnaeth Erik Lamela ychwanegu'r ail gan sicrahu gêm gartref yn erbyn Rochdale yn y bumed rownd.

Ar ôl hynny fe wnaeth Casnewydd ddangos cryn ddycnwch i beidio ildio mwy.

Prin oedd eu hymdrechion ar gôl, er fe ddaeth cyfle i Padraig Amond yn y munudau ola dim ond iddo ergydio yn syth at y golgeidwad Michel Vorm.

Nawr fe fydd yn rhaid i Michael Flynn droi ei sylw yn ôl i'r Ail Adran ac ymdrech Casnewydd i gyrraedd y safloedd ail gyfle wrth iddynt groesawu Forest Green ddydd Sadwrn.

Pynciau Cysylltiedig