AC Llafur: 'Gallai Carwyn Jones gael ei ddisodli eleni'

Jenny Rathbone
Image caption Dywedodd Jenny Rathbone ei bod yn bosib na fydd Carwyn Jones yn parhau i fod yn ei swydd erbyn diwedd y flwyddyn

Mae un o ACau'r blaid Lafur wedi dweud y gallai cyfnod Carwyn Jones fel prif weinidog ddod i ben cyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd Jenny Rathbone fod hynny "yn sicr ar yr agenda", a hynny wedi i ysgrifennydd yr economi gyfaddef fod tensiynau wedi bod o fewn y blaid Lafur yn ystod ymgyrch isetholiad Alun a Glannau Dyfrdwy.

Ond dywedodd Ken Skates wrth raglen BBC Cymru Wales Live nad oedd "unrhyw symudiad" yn erbyn y prif weinidog.

Wnaeth Mr Jones ddim ymgyrchu yn yr etholaeth yn yr ystod yr isetholiad.

Mae un cyn-weinidog wedi dweud bod cwestiynau am arweinyddiaeth y prif weinidog.

'Dim amser'

Cafodd yr isetholiad ei alw yn dilyn marwolaeth Carl Sargeant.

Cafodd ei ganfod yn farw ddyddiau wedi iddo golli ei swydd yn y llywodraeth a chael ei wahardd gan y blaid Lafur, yn dilyn honiadau yr oedd e'n eu gwadu am ei ymddygiad personol.

Mae Carwyn Jones wedi ei feirniadu am y modd y deliodd â'r diswyddo, ac mae Paul Bowen QC yn arwain ymchwiliad annibynnol i'r mater.

Enillodd mab Mr Sargeant, Jack, isetholiad Alun a Glannau Dyfrdwy gyda 60% o'r bleidlais.

Image copyright Llun teulu
Image caption Y diweddar Carl Sargeant gyda'i fab Jack, sydd bellach yn cynrychioli Alun a Glannau Dyfrdwy yn y Cynulliad

Dywedodd Mr Jones wrth BBC Cymru na fyddai ganddo broblem gweithio gyda Jack Sargeant, er nad oedd wedi cael cyfle i siarad ag o eto.

"Rydw i wedi ei longyfarch ar Twitter a dwi'n gobeithio cael y cyfle i siarad gydag e dros y dyddiau nesaf," meddai.

Mynnodd nad oedd wedi cael "amser" i fynd i ymgyrchu yn yr etholaeth, ac nad oedd unrhyw "densiynau" yn bodoli.

"Does dim problem o fy mhersbectif i a dwi eisiau sicrhau fod Jack yn datblygu i fod yn Aelod Cynulliad effeithiol dros Alun a Glannau Dyfrdwy."

'Tensiynau'

Ar raglen Wales Live, gofynnwyd i Ken Skates a oedd yr isetholiad yn fuddugoliaeth i Carwyn Jones.

Dywedodd ei fod yn fuddugoliaeth i'r "symudiad Llafur cyfan" ond cydnabyddodd fod yna broblemau wedi codi: "Dydw i ddim yn mynd i wadu bod yna densiynau wedi bod, ond y ffaith yw fod Jack wedi ennill.

"Roedd yna bryderon ar y pryd... ond hefyd dydw i ddim wedi profi ymgyrch lle roedd cymaint o gynhesrwydd gan bobl ar garreg y drws.

"Roedd pobl y tu ôl i Jack."

Pan ofynnwyd a oedd gan y Prif Weinidog gefnogaeth Aelodau Cynulliad Llafur, dywedodd Mr Skates: "Gallaf ddweud wrthoch chi nad oes symudiad yn ei erbyn.

"Does dim symudiad. Dwi'n gwybod bod wastad damcaniaethu am bwy sy'n mynd i fod nesa', pwy fydd yr arweinydd nesaf? Does dim byd yn newydd yn hynny.

"Y funud rydych chi'n cael eich ethol yn arweinydd, rydych chi'n edrych dros eich ysgwydd i weld pwy sy'n dod drwyddo.

"Dwi'n gwybod y bydd yna lawer o ddyfalu ond y ffaith yw fod Jack yn mynd i fod yn dod i lawr yr wythnos nesaf.

"Mae e'n canolbwyntio ar weithredu ar ran pobl Alun a Glannau Dyfrdwy."

Dywedodd y cyn-weinidog gyda Llywodraeth Lafur Cymru, Leighton Andrews, wrth Wales Live y byddai presenoldeb Carwyn Jones yn yr ymgyrch wedi bod yn niweidiol, a bod yna gwestiynau am ei arweinyddiaeth.

"Rwy'n credu fod yr ymgyrch a'r holl amgylchiadau o'i gwmpas yn anochel yn codi cwestiynau am arweinyddiaeth Llafur Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol," meddai.

'Ar yr agenda'

Mae un arall o ACau Llafur wedi dweud fodd bynnag y gallai Cymru fod â phrif weinidog newydd cyn diwedd y flwyddyn.

Dywedodd Jenny Rathbone wrth y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes mewn podlediad: "Mae digon o ymgeiswyr posib eisoes wedi bod yn datgan eu diddordeb. Felly mae'n sicr ar yr agenda."

Ar hyn o bryd mae'r cyfreithiwr James Hamilton yn cynnal ymchwiliad i honiadau fod Mr Jones wedi camarwain y Cynulliad mewn sylwadau a wnaeth ynglŷn â bwlio o fewn Llywodraeth Cymru yn 2014.

Image caption Jack Sargeant yn siarad wedi ei fuddugoliaeth yn yr isetholiad ar 6 Chwefror

Dywedodd Ms Rathbone nad oedd hi wedi gweld arwyddion o fwlio pan oedd hi'n gadeirydd ar bwyllgor oedd yn craffu ar wariant cyllid o'r UE yng Nghymru.

Ond dywedodd fod rhai "unbeniaid" oedd yn anhapus pan fyddai rhywun yn "herio eu safbwynt".

"Felly na, fydden i ddim yn synnu gyda sylwadau eraill fod bwlio wedi digwydd," meddai.

"Mae'n ddrwg gen i ddweud fod hynny'n bendant yn bosibiliad, ond yn amlwg rydyn ni'n aros am ganlyniad yr ymchwiliad."

Straeon perthnasol