Pro 14: Connacht 26-15 Gweilch
- Cyhoeddwyd

Methiant fu ymdrech y Gweilch i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Connacht nos Wener.
Y tîm cartref a sgoriodd gyntaf a hynny wedi cic gosb ond ar ôl ugain munud roedd yna gais gan Dafydd Howells i'r Gweilch.
Ond doedd y Gweilch ddim yn hir ar y blaen. O fewn pedair munud dyma nhw'n troseddu eto ac fe gafodd Connacht gic gosb lwyddiannus arall gan ddod â'r sgôr i 6-5.
Erbyn hanner amser yn annisgwyl roedd Connacht ymhellach ar y blaen wedi trosgais llwyddiannus a'r sgôr felly yn 13-5.
Dechrau ail hanner da i'r Gweilch ond dim pwyntiau
Gwaethygu wnaeth pethau wedyn wrth i Hanno Dirksen gael cerdyn melyn a Connacht gael cic gosb gan wneud y sgôr yn 16-5.
Wedi 63 munud roedd yna gic gosb o'r diwedd i'r Gweilch ond o fewn dim trosgais i'r tîm cartref a ymestynnodd ei mantais o 23-8.
Chafodd ysbryd Y Gweilch ddim mo'i chwalu gan iddynt daro nôl a sgorio trosgais (Reuben Morgan-Williams a Sam Davies).
Munudau wedyn cig gosb i Connacht (26-15) ac felly y parhaodd y sgôr tan y chwiban olaf.