Y Bencampwriaeth: Millwall 1-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Caerdydd yn bedwerydd yn y tabl ac mae'r cyfle i ddringo heibio Aston Villa i'r trydydd safle wedi ei golli wedi gêm gyfartal yn erbyn Millwall.
Dechreuodd Caerdydd fel petaent ar dân.
Cafodd Junior Hoilett afael ar y bêl ar ymyl y blwch cosbi ar ôl tair munud.
Roedd e ryw bum llath ar hugain o'r gôl ac ergydiodd yn hyfryd heibio'r gôl geidwad Jordan Archer i gongl chwith y rhwyd gan roi yr adar gleision ar y blaen.
Gan Gaerdydd oedd y llaw uchaf am gyfnod maith wedyn.
Ond yn araf yr oedd Millwall yn dod yn ôl i ganol y gêm a gyda pum munud yn weddill o'r hanner cyntaf fe groesodd Jed Wallace y bêl i flwch cosbi Caerdydd a gydag ergyd rymus fe roddodd Lee Gregory y Llewod yn gyfartal.
Felly y daeth yr hanner cyntaf i ben gyda Millwall wedi eu hysbrydoli gan y gôl.
Er i Gaerdydd ddechrau'r ail hanner ychydig yn gryfach yn fuan iawn yr oedd Millwall yn ôl yn bygwth y gôl.
Bu'n rhaid i Neil Etheridge yn gôl Caerdydd wneud ambell arbediad da i gadw'r sgôr yn gyfartal.
Ond roedd y naill dîm a'r llall yn colli'r meddiant yn rhwydd a'r gêm felly yn pendilio'n gyson.
Gorfoleddu'n ofer
Roedd cefnogwyr Caerdydd yn gorfoleddu pan blannodd Sol Bamba y bêl yn y rhwyd. Ond roedd y chwiban wedi mynd ac yr oedd y sgôr yn parhau yn gyfartal.
Daeth Caerdydd yn agos eto dair munud o'r diwedd ond roedd pen amddiffynwr Millwall yn y ffordd ar linell y gôl.
Fe barhaodd y brwydro am bedair munud heibio'r naw deg ond cyfartal oedd hi yn y diwedd.
Mae Caerdydd felly yn bedwerydd yn y tabl a'r cyfle i ddringo heibio Aston Villa i'r trydydd safle wedi ei golli.