Pro 14: Dreigiau 15-15 Glasgow
- Cyhoeddwyd

Roedd yna ddigon o gyffro yn Rodney Parade wrth i'r Dreigiau groesawu'r ymwelwyr.
Y Dreigiau a sgoriodd gyntaf wrth i Liam Belcher sicrhau cais ar ôl dwy funud.
Ond fe wnaeth Glasgow ymateb yn fuan wrth i Brandon Thompson groesi'r llinell. Methiant fu'r trosiad ond roedd yna 3 bwynt buan drwy gic gosb gan roi'r ymwelwyr ar y blaen 8-5.
Wedi 24 munud trosgais llwyddiannus i'r ymwelwyr ond cyn diwedd yr hanner cyntaf cig gosb a throsgais llwyddiannus i'r Dreigiau wrth i Jared Rosser groesi'r llinell.
Y sgôr ar yr hanner felly yn gyfartal 15-15.
Doedd yna ddim sgôr o gwbl yn yr ail hanner ac roedd arbenigwyr yn dweud y gallai tîm cryfach gan yr ymwelwyr fod wedi chwalu amddiffyn Y Dreigiau.
Wedi'r chwiban olaf felly y sgôr yn parhau yn gyfartal 15-15.